Noson yng nghwmni Côr Tadau Trisant | An Evening with Tadau Trisant

cor tadau trisant

 

08/02/2019

7:30pm

£5

 

Dewch i fwynhau noson yng nghwmni Côr Tadau Trisant. Bydd elw’r noson yn mynd tuag at Menter Iaith a CRICA – ymchwilio i glefyd Crohn mewn plant.

Sefydlwyd Cor Tadau Trisant yn y flwyddyn 2014. Mae’r Côr wedi tyfu dros y blynyddoedd o dan arweiniad Tim Edwards, enillydd gwobr BRIT Clasurol gyda Only Men Aloud! Mae’r côr wedi perfformio mewn digwyddiadau lleol a chenedlaethol, yn cefnogi llawer o gyngherddau elusennol. Maent hefyd wedi rhannu llwyfan gyda nifer o gôrau ac artistiaid lleol. Bydd y Côr yn perfformio amrywiaeth eang o ganeuon ar y noson felly dewch draw am noson ddifyr!
Trefnwyd y noson ar y cyd gyda Chymdeithas Gymraeg Llantrisant. Darperir bar ar y noson.

Come and enjoy an evening in the company of Côr Tadau Trisant. All proceeds raised will go towards Menter Iaith and CRICA – research into Crohn’s disease in children.

Cor Tadau Trisant was established back in 2014. The choir has grown considerably in numbers over the years under the direction of Tim Edwards, a Classical BRIT award winner with Only Men Aloud! The choir has performed at local and national events, supported many charitable concerts and has shared the stage with many local choirs and artists. They will be performing a variety of songs from different genres on the night so come along, it’s an evening not to be missed!

This event has been organised in partnership with with Cymdeithas Gymraeg Llantrisant. There will be a bar provided on the night.

 

__

Tocynnau | Tickets : 01443 570 075