Cerrig yn Slic

Arad Goch - Cerrig yn Slic 10 Tachwedd 2017 ©keith morris www.artswebwales.com keith@artx.co.uk 07710 285968 01970 611106

Gan/by Theatr Arad Goch

6/11/18

£5

10am

1pm


 

Mae’r ddrama hon yn ddatblygiad o’r gwaith arbenigol mae’r cwmni wedi’i greu i’r Cyfnod Sylfaen  yn ystod y  blynyddoedd diwethaf. Fe fydd, unwaith eto, yn defnyddio gwrthrychau naturiol i ddweud straeon – gan annog y disgyblion a’u hathrawon i archwilio ffyrdd o chwarae a dysgu  yn yr awyr agored. Mae ynddi elfen gyfranogol grêf yn ogystal â stori fydd yn cynorthwyo’r plant i adnabod a thrafod emosiynau.

Bydd y perfformiad yn dechrau yn yr awyr agored cyn symud i ofod mewnol; mae’n para tua 50 munud gydag elfennau rhyngweithiol wedi’u plethu i mewn i’r perfformiad. Mae’r ddrama yn frith o themâu amrywiol  gan gynnig syniadau i athrawon fel man cychwyn ar gyfer nifer o weithgareddau dilynol yn y dosbarth a’r tu allan.

Cerddoriaeth: Bydd elfennau cryf o gerddoriaeth a rhythmau a chwaraeir yn fyw fel ysgogiad creadigol i’r disgyblion.

Elfen Gyfranogol: Mae elfen gyfranogol grêf yn y ddrama: wedi dechrau yn yr awyr agored, bydd cyfle i’r disgyblion helpu un o’r cymeriadau i gasglu gwrthrychau naturiol. Y tu fewn, mae’r ddrama yn digwydd mewn gofod caeëdig tawel lle caiff y gynulleidfa gyfle i greu lluniau a phatrymau fel rhan o’r weithgaredd ddramatig.

Perfformiad trwy gyfrwng y Gymraeg.


 

This drama is a development of previous specialist theatre work created by the company over the last 7 years for the Foundation Phase. Once again, we will be using natural objects to tell a story and offering new ways of learning through play in the open air, to teachers and pupils alike. With strong interactive elements, the story will assist children in recognising and discussing their emotions.

The performance will commence in the open air before moving inside; it will last about 50 minutes with interactive elements woven into the performance. The drama is speckled with numerous themes offering a basis to teachers for further activities inside and outside the classroom.

Music : Strong elements of music and rhythms played live as creative inspiration for pupils.

Interaction: During the open air element, children assist one of the characters to collect items. Inside, the drama unfolds in an enclosed, quiet space where the audience can create pictures and patterns as part of the creative experience.

 

Performance through the medium of Welsh.

 


 

 

Arad Goch – Cerrig yn Slic
10 Tachwedd 2017
©keith morris
www.artswebwales.com
keith@artx.co.uk
07710 285968
01970 611106