Brecshit: Sioe Glwb Bara Caws

Brechsit

 

25+26 / 05/18

19:30

£14 / £12

 

 

 

Mae teulu Doris Morris wedi bod yn ffarmio yn Bryn-Cwd-yr-Arian ers canrifoedd, ond yn dilyn canlyniad y bleidlais Brexit mae Doris druan wedi gorfod arall-gyfeirio. Bellach mae hi’n rhedeg clinig therapiwtig a hafan i bobl gyda bob math o broblemau. A fydd rhedegbusnes o’r fath yn cadw’r blaidd o’r drws?

A fydd Doris yn llwyddo i gadw ei hetifeddiaeth? A pha mor iachus ydy ‘colonic irrigation’ i rywun mewn gwirionedd? – Cawn weld!
Gwahoddwyd rhai o hoelion wyth sioeau’r gorffennol i gyd-sgwennu’r sgript yn ogystal a gwahodd un aelod bach newydd i gyd-weithio gyda’r llewod yn eu ffau. Manon Ellis yw’r ferch eofn honno, ac mae hi, Iwan Charles, Llyr Evans a Gwenno Ellis Hodgkins eisoes wedi bod yn sgriblo’n ddygn dan lygad barcud John Glyn Owen, fydd yn ei chyfarwyddo. 4 actor ond degau o gymeriadau – llond bol o chwerthin, tynnu coes (a blewyn o drwyn), dychan a maswedd (mae’n siŵr!) Cynhyrchiad trwy gyfrwng y Gymraeg
Canllaw Oed 18 +

_____________

Doris Morris’s family has been farming at Bryn-Cwd-yr-Arian for generations, but following the Brexit referendum, poor Doris has had to find alternative means of making ends meet. By now she is running a therapeutic clinic which is also a haven for people with all sorts of problems. Will this new business venture keep the wolf from the door? Will Doris succeed in securing her inheritance? And how healthy is colonic irrigation if truth be told? – We’ll see!


A new Club Show – a brand unique to Bara Caws in the world of Welsh language theatre. This time around we’ve invited some stalwarts of the genre, along with one unsuspecting newbie, to co-write the script. So Iwan Charles, Manon Ellis, Llyr Evans and Gwenno Ellis Hodgkins have already been
scribbling away under the eagle of eye of John Glyn Owen, who takes on the role of dramaturg and director. 4 actors but tens of characters — lots of laughter, provocation, satire and, most definitely… filth!


This is a Welsh language production
Age guidance 18+

This is a Welsh language production